Dulliau eraill
Ynghylch Ailgylchu Dros Ferthyr
Croeso i Ailgylchu Dros Ferthyr, porth eich gwasanaethau Ailgylchu ym Merthyr Tudful. Dysgwch fwy am pam y dylech ailgylchu, sut i ailgylchu a sut y gallwch wneud rhagor i ailgylchu
Os ydych eisiau ailddefnyddio mwy, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau arni, dyma’r dudalen i chi.
Mae ailddefnyddio rhywbeth yn ffordd wych o ymestyn ei oes, a chadw pethau rhag cael eu hanfon i safle tirlenwi.
Ewch i’ch siop elusen leol i roddi dillad, eitemau tŷ a llyfrau dieisiau.
Os ydych wedi diweddaru eich cyfrifiadur neu stereo, beth am roddi’r hen rai i’ch ysgol agosaf
Ceisiwch ddarganfod a oes cynllun ailddefnyddio dodrefn neu elusen yn agos atoch a fyddai’n fodlon cymryd eich eitemau.
Mae sothach un person yn drysor i un arall! Ydych chi wedi ceisio gwneud ychydig o arian ychwanegol mewn gwerthiant cist car, ar-lein neu yn y papur lleol?
Mae Ebay, freegle, freecycle and Gumtree yn lleoedd gwych i werthu neu, os oes gennych ddillad babanod a phlant sy’n rhy fach iddyn nhw, ReLIKE hefyd yn rhoi i elusen bob tro y caiff bwndel ei werthu.
Ceisiwch drwsio’r eitem yn lle ei daflu i’r bin ac arbed llawer o arian. Os na ellir ei atgyweirio, ewch ag ef i’ch canolfan ailgylchu agosaf.
Beth am ailwampio hen ddodrefn yn hytrach na’i daflu? Mae’n rhyfeddol beth gall ychydig o baent plisgyn wy ei wneud i gwpwrdd pinwydd di-raen.
Mae gennym lawer o awgrymiadau ymarferol a rhestr o sut y gallwch droi eitemau bob dydd yn eitemau defnyddiol.